OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 1493 (Cy. 191)
iECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion.
Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t.1).
Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3), yn unol â’r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.
Mae’r Rheoliadau yn cydgrynhoi nifer o offerynnau blaenorol a oedd yn ymdrin ar wahân â ffioedd penodol ynglŷn ag iechyd planhigion; dirymir yr offerynnau blaenorol hynny (rheoliad 7). Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno unrhyw fathau newydd o ffioedd.
Mae lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn yr offeryn hwn yn rhan o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy’n adennill y gost lawn. Cynyddir y rhan fwyaf o’r ffioedd yn sylweddol: pennir cynnydd o 229% mewn ffioedd arolygu mewnforio, 52% yn y ffioedd mewn perthynas â thatws hadyd, 160% mewn ffioedd trwyddedu, 184% yn y ffioedd am arolygu tatws sy’n tarddu o’r Aifft, a 55% yn y ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion. Darperir manylion pellach yn y Memorandwm Esboniadol.
Paratowyd asesiadau rheoleiddiol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, mewn perthynas â phob un o’r pum math o ffioedd y mae’r offeryn hwn yn ymwneud â hwy, ac maent ar gael gan Adran yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 1493 (Cy. 191)
iECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012
Gwnaed 5 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mehefin 2012
Yn dod i rym 6 Gorffennaf 2012
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliad 7(a), (b) ac (c) drwy arfer pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 7(a), (b) ac (c), gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973([3]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.([4])
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd
Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2012. Maent yn gymwys o ran Cymru a
deuant i rym ar 6 Gorffennaf 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i'r Gymuned organebau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned([5]); a
(b) ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006([6]).
(3) Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’w cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.
Ffioedd arolygu mewnforio
2.—(1)(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas
â llwythi o—
(a) planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, a
(b) hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,
a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.
(2) Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—
(a) y ffi a bennir—
(i) yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo; neu
(ii) yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodlen honno ac sy'n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno; a
(b) y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.
(3) Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 os yw'r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([7]) yng Nghymru.
Tatws hadyd: ffioedd
3.—(1)(1) Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy
mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn
1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais
am—
(a) ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o’r Rheoliadau Tatws Hadyd;
(b) awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o'r Rheoliadau hynny.
(2) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.
(3) Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan y Rheoliadau Tatws Hadyd ar ran Gweinidogion Cymru.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau Tatws Hadyd” (“the Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006([8]).
Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion
4.—(1)(1) Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn
ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41
o’r GIP.
(2) Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.
Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion
5.—(1)(1) Rhaid talu'r ffi a bennir ym mharagraff (2) i
Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw arolygiad (gan gynnwys
arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad
ag—
(a) cais am awdurdod; neu
(b) sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau y rhoddwyd awdurdod yn ddarostyngedig iddynt.
(2) Y ffi yw £31.50 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £63.00 am bob ymweliad.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion, a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006([9]) neu erthygl 29 o’r GIP.
Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffioedd
6.—(1)(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n
tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5
o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny
wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith)
Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion
Cymru ffi o £87.80 mewn perthynas â phob lot y cymerir
sampl ohoni.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., mewn cysylltiad â’r Aifft([10]).
Dirymiadau
7. Dirymir y canlynol—
(a) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Trwyddedau) (Cymru a Lloegr) 1996([11]), o ran Cymru yn unig;
(b) rheoliad 6 o Reoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004([12]);
(c) Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) (Rhif 2) 2006([13]);
(ch) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Pasbortau Planhigion) (Cymru) 2007([14]);
(d) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010([15]); ac
(dd) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012([16]).
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2012
ATODLEN 1 Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)
Ffioedd Arolygu Mewnforio
Colofn 1 Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall |
Colofn 2 Nifer |
Colofn 3 Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)
|
Colofn 4 Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau |
hyd at 10,000 o ran nifer |
46.98 |
70.47 |
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny |
1.88, hyd at uchafswm o 375.84 |
2.81, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau) |
hyd at 1,000 o ran nifer |
46.98 |
70.47 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny |
1.15, hyd at uchafswm o 375.84 |
1.73, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu |
hyd at 200 kg |
46.98 |
70.47 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
0.43, hyd at uchafswm o 375.84 |
0.64, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Hadau, meithriniadau meinwe |
hyd at 100 kg |
20.13 |
30.20 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
0.46, hyd at uchafswm o 375.84 |
0.69, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon |
hyd at 5,000 o ran nifer |
46.98 |
70.47 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny |
0.46, hyd at uchafswm o 375.84 |
0.69, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Blodau wedi'u torri |
hyd at 20,000 o ran nifer |
46.98 |
70.47 |
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny |
0.36, hyd at uchafswm o 375.84 |
0.54, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri) |
hyd at 100 kg |
46.98 |
70.47 |
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
4.67, hyd at uchafswm o 375.84 |
7.01, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Coed Nadolig sydd wedi'u torri |
hyd at 1,000 o ran nifer |
46.98 |
70.47 |
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny |
4.67, hyd at uchafswm o 375.84 |
7.01, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog |
hyd at 100 kg |
46.98 |
70.47 |
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
4.67, hyd at uchafswm o 375.84 |
7.01, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) |
hyd at 25,000 kg |
46.98 |
70.47 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
1.88 |
2.81 |
|
Cloron tatws |
hyd at 25,000 kg |
140.94 (am bob lot) |
211.41 (am bob lot) |
am bob 25,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
140.94 (am bob lot) |
211.41 (am bob lot) |
|
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl |
hyd at 25,000 kg |
46.98 |
70.47 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
1.88, hyd at uchafswm o 375.84 |
2.81, hyd at uchafswm o 563.76 |
|
Grawn |
hyd at 25,000 kg |
46.98 |
70.47 |
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny |
1.88, hyd at uchafswm o 1879.19 |
2.81, hyd at uchafswm o 2818.78 |
|
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd |
am bob llwyth |
46.98 |
70.47 |
ATODLEN 2 Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)
Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol
Colofn 1 Genws |
Colofn 2 Nifer |
Colofn 3 Gwlad tarddiad |
Colofn 4 Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)
|
Colofn 5 Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
Blodau wedi’u torri |
||||
Dianthus |
hyd at 20,000 o ran nifer |
Colombia |
2.35 |
3.52 |
Ecuador |
4.70 |
7.05 |
||
Kenya |
2.35 |
3.52 |
||
Twrci |
11.74 |
17.62 |
||
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny |
Colombia |
0.02, hyd at uchafswm o 18.79 |
0.03, hyd at uchafswm o 28.19 |
|
Ecuador |
0.04, hyd at uchafswm o 37.58 |
0.07, hyd at uchafswm o 56.38 |
||
Kenya |
0.02, hyd at uchafswm o 18.79 |
0.03, hyd at uchafswm o 28.19 |
||
Twrci |
0.10, hyd at uchafswm o 93.96 |
0.15, hyd at uchafswm o 140.94 |
||
Rosa |
hyd at 20,000 o ran nifer
|
Colombia |
1.41 |
2.11 |
Ecuador |
1.41 |
2.11 |
||
Ethiopia |
2.35 |
3.52 |
||
Kenya |
2.35 |
3.52 |
||
Tanzania |
4.70 |
7.05 |
||
Uganda |
11.74 |
17.62 |
||
Zambia |
11.74 |
17.62 |
||
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynny |
Colombia |
0.01, hyd at uchafswm o 11.28 |
0.01, hyd at uchafswm o 16.91 |
|
Ecuador |
0.01, hyd at uchafswm o 11.28 |
0.01, hyd at uchafswm o 16.91 |
||
Ethiopia |
0.02, hyd at uchafswm o 18.79 |
0.03, hyd at uchafswm o 28.19 |
||
Kenya |
0.02, hyd at uchafswm o 18.79 |
0.03, hyd at uchafswm o 28.19 |
||
Tanzania |
0.04, hyd at uchafswm o 37.58 |
0.07, hyd at uchafswm o 56.38 |
||
Uganda |
0.07, hyd at uchafswm o 93.96 |
0.10, hyd at uchafswm o 140.94 |
||
Zambia |
0.07, hyd at uchafswm o 93.96 |
0.10, hyd at uchafswm o 140.94 |
||
Canghennau gyda deiliant |
||||
Phoenix |
hyd at 100 kg |
Costa Rica |
16.44 |
24.66 |
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Costa Rica |
1.63, hyd at uchafswm o 131.54 |
2.45, hyd at uchafswm o 197.32 |
|
Ffrwythau |
||||
Citrus |
hyd at 25,000 kg |
Yr Aifft |
7.05 |
10.57 |
Israel |
4.70 |
7.05 |
||
Mecsico |
7.05 |
10.57 |
||
Moroco |
2.35 |
3.52 |
||
Periw |
11.74 |
17.62 |
||
Twrci |
1.41 |
2.11 |
||
Uruguay |
7.05 |
10.57 |
||
UDA |
7.05 |
10.57 |
||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Yr Aifft |
0.26 |
0.39 |
|
Israel |
0.19 |
0.28 |
||
Mecsico |
0.26 |
0.39 |
||
Moroco |
0.07 |
0.10 |
||
Periw |
0.47 |
0.70 |
||
Twrci |
0.03 |
0.05 |
||
Uruguay |
0.26 |
0.39 |
||
UDA |
0.26 |
0.39 |
||
Malus |
hyd at 25,000 kg |
Ariannin |
4.70 |
7.05 |
Brasil |
7.05 |
10.57 |
||
Chile |
2.35 |
3.52 |
||
Tsieina |
23.49 |
35.23 |
||
Seland Newydd |
4.70 |
7.05 |
||
De Affrica |
2.35 |
3.52 |
||
UDA |
11.74 |
17.62 |
||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Ariannin |
0.19 |
0.28 |
|
Brasil |
0.28 |
0.42 |
||
Chile |
0.09 |
0.14 |
||
Tsieina |
0.94 |
1.40 |
||
Seland Newydd |
0.19 |
0.28 |
||
De Affrica |
0.09 |
0.14 |
||
UDA |
0.47 |
0.70 |
||
Passiflora |
hyd at 25,000 kg |
Colombia |
4.70 |
7.05 |
Kenya |
4.70 |
7.05 |
||
De Affrica |
23.49 |
35.23 |
||
Zimbabwe |
16.44 |
24.66 |
||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Colombia |
0.16 |
0.25 |
|
Kenya |
0.16 |
0.25 |
||
De Affrica |
0.92 |
1.38 |
||
Zimbabwe |
0.63 |
0.94 |
||
Prunus |
hyd at 25,000 kg |
Ariannin |
16.44 |
24.66 |
Chile |
4.70 |
7.05 |
||
De Affrica |
4.70 |
7.05 |
||
Twrci |
4.70 |
7.05 |
||
UDA |
4.70 |
7.05 |
||
am bob 1000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Ariannin |
0.63 |
0.94 |
|
Chile |
0.16 |
0.25 |
||
De Affrica |
0.16 |
0.25 |
||
Twrci |
0.16 |
0.25 |
||
UDA |
0.16 |
0.25 |
||
Pyrus |
hyd at 25,000 kg |
Ariannin |
4.70 |
7.05 |
Chile |
11.74 |
17.62 |
||
Tsieina |
16.44 |
24.66 |
||
De Affrica |
4.70 |
7.05 |
||
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Ariannin |
0.16 |
0.25 |
|
Chile |
0.47 |
0.70 |
||
Tsieina |
0.66 |
0.98 |
||
De Affrica |
0.16 |
0.25 |
||
Llysiau |
||||
Solanum melongena |
hyd at 25,000 kg |
Twrci |
4.70 |
7.05 |
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Twrci |
0.16 |
0.25 |
ATODLEN 3 Rheoliad 2(2)(b)
Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod
Colofn 1 Gwiriad |
Colofn 2 Nifer |
Colofn 3 Ffi (£) |
Dogfennol |
am bob llwyth |
5.36 |
Adnabod |
am bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol |
5.36 |
am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod |
10.71 |
ATODLEN 4 Rheoliad 3
Tatws Hadyd: Ffioedd
Colofn 1 Swyddogaeth |
Colofn 2 Ffi(1) (£) |
Colofn 3 Lleiafswm ffi (£) |
|
Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau |
|||
Ardystio fel tatws hadyd cyn-sylfaenol |
122.57* |
n/a |
|
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel: |
super elite 1, super elite 2 neu super elite 3 |
61.29 |
122.57 |
elite 1, elite 2 neu elite 3 |
61.29 |
122.57 |
|
A |
58.26 |
116.52 |
|
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig |
52.96 |
105.93 |
|
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd |
122.57* |
n/a |
|
Arolygu cloron a gynaeafwyd |
|||
Hyd at ddau arolygiad |
18.16 |
36.32 |
|
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol |
122.57* |
n/a |
(1) Mae’r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a’r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar.
ATODLEN 5 Rheoliad 4(2)
Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion
Colofn 1 Eitem |
Colofn 2 Math o gais neu arolygiad |
Colofn 3 Ffi (£) |
1 |
Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3 |
781.27 |
2 |
Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi |
563.54 |
3 |
Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau |
781.27, plws 30.74 am bob math o beth dros ben y 5 |
4 |
Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol |
256.15 |
5 |
Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol |
30.74 |
6 |
Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded |
42.06 am bob awr neu ran o awr |
([1]) Yn rhinwedd Erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.
([2]) 1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).
([3]) 1973 p.51. Diddymwyd is-adran (6) o adran 56 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1977 (p.18).